Gwanwyn 2011
Yn y rhifyn yma, byddwn yn teithio i Sir Benfro - sir sy’n llawn gwrthgyferbyniadau. Dyma ardal gyfoethog yn llawn pobl wedi ymddeol, a’r unig sir yng Nghymru sydd â dau o Aelodau Seneddol Ceidwadol. Ond mae hefyd yn frith o eco-arloeswyr. Mae hi wedi arwain y ffordd yng Nghymru o ran polisïau’n ymwneud â ffyrdd cynaliadwy o fyw mewn cartrefi bach eu heffaith, ac ynddi hi y ceir y nifer fwyaf o fusnesau bwydydd organig, marchnadoedd bwydydd lleol, siopau bwydydd cyflawn, stofiau pelenni pren, ffeiriau gwyrdd ac ymarferwyr cyflenwol. Mi allech chi fynd yno i ryfeddu at yr arfordir a’r bryniau hardd; ond, i’r bobl sy’n byw yno, mae yna fwy o lawer yn perthyn i’r lle. Mae prosiectau ffermio cynaliadwy o fudd i fusnesau lleol a bywyd gwyllt fel ei gilydd, a gwelir bod atgyweirio adeilad yn ofalus wedi diogelu un o safleoedd clwydo math prin o ystlum.