Gwanwyn 2012
Rhifyn Bannau Brycheiniog – y diweddaraf am gadwraeth ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae’r gwanwyn yn gyfnod prysur iawn eleni, gydag ymgynghoriad ‘Cymru Fyw’ ar waith. Cyflwyno’i safbwynt fel ‘lleygwr’ y mae Huw Jenkins ynglŷn â’r syniadau newydd a radical yma o reoli ein hadnoddau naturiol. Byddai’n wych pe bai darllenwyr Natur Cymru yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad er mwyn sicrhau eu bod yn cael dweud eu dweud a lleisio’u barn ynglŷn â’r hyn a fydd yn digwydd nesaf.
Darllen erthygl lawn Huw.
Ar 5 Mai 2012 bydd Llwybr Arfordir Cymru yn cael ei agor. Wedyn, Cymru fydd yr unig wlad yn y byd â llwybr di-dor o amgylch yr arfordir. Ac os ewch chi ar hyd Llwybr Clawdd Offa hefyd, mi gewch chi lwybr di-dor o 1000 milltir a mwy.