Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn gwella eich profiad o ddefnyddio ein gwefan. Ni chedwir gwybodaeth bersonol o gwbl. Os gwnewch chi barhau heb newid eich gosodiadau cwcis, byddwn yn tybio eich bod yn fodlon derbyn yr holl gwcis ar y wefan. I gael mwy o wybodaeth am ein cwcis, darllenwch ein datganiad preifatrwydd.



Natur Cymru Natur Cymru
Rhifyn 45

Rhifyn 45

Gaeaf 2012-13

Mae’r rhifyn yma’n sôn am y cyfleoedd gwych sydd ar gael i fentro allan i gefn gwlad, o safbwynt gwirfoddolwr sy’n gweithio ar lwybrau troed; ysgrifennwr arweinlyfrau sy’n bwrw golwg dros y rhwydwaith llwybrau; a chyn-wleidydd a weithiodd yn galed i agor Llwybr yr Arfordir ar gyfer Cymru gyfan. Gobeithio y bydd ymdrechion o’r fath yn dod â buddiannau cerddwyr a natur at ei gilydd. Dylai mynediad fod yn gyfrwng i gyfoethogi bioamrywiaeth yn hytrach nag yn ffordd o roi pwysau arni: gall dulliau rheoli priodol fod o fudd i’r cerddwr a’r tir a gaiff ei droedio fel ei gilydd.

Rhifyn 44

Rhifyn 44

Hydref 2012

Daw’r cyhoeddiad hwn allan efo 4 tudalen lliw ychwanegol, sydd yn cynnig cymysgedd cyfoethocach o straeon bywyd gwyllt. Mae gan nifer thema arfordirol - gwymon, twyni tywod a rhywogaethau ynys. Mae hefyd yn cynnwys enillydd a’r un ddaeth yn ail yn ein cystadleuaeth ysgrifennu.

Rhifyn 43

Rhifyn 43

Haf 2012

Mochyn daear yw symbol yr Ymddiriedolaethau Natur, felly mae’r mochyn daear ar y clawr yn ffordd o gyflwyno nifer o erthyglau a luniwyd gan, neu sy’n sôn am, Ymddiriedolaethau Natur Cymru. Yn y rhain sonnir am hynt yr Ymddiriedolaethau Natur a pha mor bwysig ydyn nhw o ran hyrwyddo bywyd gwyllt Cymru a phontio pobl a natur yn lleol. Rhoi lle amlwg i waith yr Ymddiriedolaethau Natur yn ystod blwyddyn eu canmlwyddiant yw ein ffordd ni o ddymuno’r gorau iddyn nhw a’u hachos yn y dyfodol.

Rhifyn 42

Rhifyn 42

Gwanwyn 2012

Rhifyn Bannau Brycheiniog – y diweddaraf am gadwraeth ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r gwanwyn yn gyfnod prysur iawn eleni, gydag ymgynghoriad ‘Cymru Fyw’ ar waith. Cyflwyno’i safbwynt fel ‘lleygwr’ y mae Huw Jenkins ynglŷn â’r syniadau newydd a radical yma o reoli ein hadnoddau naturiol. Byddai’n wych pe bai darllenwyr Natur Cymru yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad er mwyn sicrhau eu bod yn cael dweud eu dweud a lleisio’u barn ynglŷn â’r hyn a fydd yn digwydd nesaf. Darllen erthygl lawn Huw. Ar 5 Mai 2012 bydd Llwybr Arfordir Cymru yn cael ei agor. Wedyn, Cymru fydd yr unig wlad yn y byd â llwybr di-dor o amgylch yr arfordir. Ac os ewch chi ar hyd Llwybr Clawdd Offa hefyd, mi gewch chi lwybr di-dor o 1000 milltir a mwy.

Rhifyn 41

Rhifyn 41

Gaeaf 2011

Mae’r rhifyn morol hwn yn sôn am fôr-wlithod, adar môr, morloi a brwyniaid. Hefyd ceir golwg bersonol ar y modd y caiff Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal ei rheoli a chipolwg ar fyd rhyfedd pydredd y sêr.

Dangos eitemau o 1 i 5 (o blith 45)

1 | 2 | 3 | 4 | 5 | 6 | 7 | 8 | 9 | Nesaf >

Gweld pob rhifyn