Rhif 56 – Hydref 2015

Clawr rhifyn 56 / Issue 56 cover

 

Dim trin y tir a chnydau gorchudd – y chwyldro amaethyddol newydd

Mae ffermwyr ym mhedwar ban byd yn dysgu i gydweithio â natur yn hytrach nag ymladd yn ei herbyn. Mae bioleg eu pridd yn bwysicach na phŵer eu peiriannau, a gwelir manteision eu dulliau newydd nid yn unig yn y gwelliannau i’r pridd a’r cynnydd mewn bywyd gwyllt ond hefyd yng nghyfrifon eu ffermydd. MIKE DONOVAN sy’n egluro’r dulliau y mae ffermwyr yn eu defnyddio i roi’r syniadau newydd hyn ar waith.

Harddwch Dyfi - Datblygiadau yn y Biosffer

Pan wnaethom ni adrodd ar Fiosffer Dyfi yn 2009 (Natur Cymru 33 tud 18-21) roedd UNESCO newydd ddyfarnu statws newydd, gwell i’r ardal. Mae’r anrhydedd yn ymwneud â threftadaeth ddiwylliannol ac adeiledig yn ogystal â threftadaeth naturiol, ond yma mae ANDY ROWLAND yn canolbwyntio ar y ffordd y gellir ei ddefnyddio i annog pobl i gymryd mwy o ran yn y broses o ddeall eu hamgylchedd, ei fonitro a gofalu amdano.

Dychwelyd i Coed Gwent

Yn Natur Cymru 51, rhoddodd Barry Embling gyflwyniad difyr i Goedwig Coed Gwent. Yma, cawn fwy o wybodaeth gan COLIN TITCOMBE, yn seiliedig ar ei brofiad fel coedwigwr yno 40 mlynedd yn ôl. Mae’n disgrifio’r gigfran a aeth i’r Tŵr, y pathewod a oedd yn byw yn y conwydd a’r pryfed yr oedd yn dod ar eu traws o ddydd i ddydd yn ei waith yn y goedwig.

Glaswelltir calchfaen y gogledd-ddwyrain

Mae glaswelltiroedd calchfaen y gogledd-ddwyrain sy’n gyfoeth o rywogaethau ymhlith y planhigion gorau yng Nghymru. Yma mae JOHN OSLEY yn disgrifio gwlad y calchfaen, y gwahanol fathau o laswelltir, y planhigion a lle y gallwch eu gweld.

Gwastraff gwych - rhyfeddodau tomenni rwbel y pyllau glo

Yn hanesyddol, fe wnaeth bywyd gwyllt ddioddef wrth i feysydd glo’r De ymestyn i ddiwallu anghenion Prydain yn y Chwyldro Diwydiannol. Ond fe wnaeth y mwyngloddio adael tomenni gwastraff anferthol sydd erbyn hyn yn darparu cynefinoedd unigryw ac eithriadol o gyfoethog, i infertebratau yn enwedig. Mae LIAM OLDS wedi bod yn astudio’r cadarnleoedd annhebygol hyn i fioamrywiaeth.

Sefydliad Morgan Parry Foundation

Roedd Morgan Parry yn lladmerydd uchel iawn ei barch dros fyw o fewn terfynau naturiol. Cafodd Sefydliad Morgan Parry ei sefydlu gan ei deulu, ei ffrindiau a’i gydweithwyr er cof amdano ac i barhau â’i waith. Gan ROGER THOMAS, un o ymddiriedolwyr gwreiddiol SMPF.

www.morganparry.cymru

Y daith tuag at ardd naturiol

Ydy hi’n bosib tyfu ffrwythau a llysiau a diwallu’n gyfan gwbl anghenion bioamrywiaeth? Mae MALCOLM BERRY yn credu bod hyn yn bosib, wrth dyfu gartref o leiaf. Yma, mae’n rhannu rhai o’i brofiadau o’i siwrne i’r byd amlgnydio.

Telor Dartford yng Nghymru

Mae Telor Dartford, sy’n aderyn bychan iawn, yn wahanol i bron pob un o’n teloriaid magu am ei fod yn aros yma gydol y flwyddyn, sy’n ei wneud yn agored iawn i aeafau caled. Ym 1998, fe fagodd yng Nghymru am y tro cyntaf. HANNAH MEINERTZHAGEN sy’n sôn am ei gwaith ymchwil ar y rhywogaeth hon ym Mro Gŵyr fel rhan o’i MSc ym Mhrifysgol Abertawe

Adolygiadau llyfrau

Rainbow Dust gan Peter Marren

Small Mammals and their signs, cyh. Cyfoeth Naturiol Cymru

The Life of Buzzards gan Peter Dare

A Bird Observatory is Born gan Joan James

Darganfyddiadau mewn Gwyddoniaeth

Mewnwelediadau diddorol o Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Ymlediad Llyngyr Lledog Seland Newydd – arolwg newydd gwyddoniaeth y bobl

Barbara Brown

Crynodeb o’r Ynysoedd

Ein cipolwg arferol ar yr ynysoedd oddi arfordir Cymru. Y tro hwn:

Breision Cretzchmar ar Ynys Enlli

Ben Porter a Geoff Gibbs

Buglife

Ein tudalen arferol gan elusen Buglife

Hybu porthiant y gwanwyn

Steven Falk

Coedwigoedd a fforestydd

Newyddion gan Coed Cadw, ymddiriedolaeth coetir Cymru

Ymgyrch i achub Fforest Law Geltaidd Llennyrch

Rory Francis

Llinellau bywyd

Yn dilyn gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru

Crancod Menigog – creaduriaid estron Afon Dyfrdwy

Ben Wray

Newyddion o’r ardd
Mae popeth yn digwydd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Adfywiad Mycolegol Cymreig yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Bruce Langridge