Rhif 52 – Hydref 2014

Gwarchodfa natur Carmel: tirwedd yr annisgwyl

Yn aml, mae’n amhosibl diffinio’r lleoedd gorau ar gyfer bywyd gwyllt. Mae GNG  Carmel yn enghraifft, â’i thirwedd agos-atoch yn cuddio cymysgedd o gynefinoedd coetir a phorfa, ynghyd â llyn ysbeidiol neu “glwt Marsli”. Mae bod yn gysylltiedig â’r lle yn talu ar ei ganfed, ond bu yno anawsterau, hefyd, fel yr esbonia DEBORAH SAZER.

Gwylogod ar Sgomer - gwerth astudiaethau poblogaeth tymor hir

Mewn erthygl gynharach (���Guillemots on Skomer”, NC 30:33) disgrifiodd TIM BIRKHEAD sut ’roedd astudiaethau arolygu tymor hir wedi datgelu cyfrinachau’r aderyn môr annwyl hwn. Mae’r fath arolygu’n dibynnu ar ymroddiad, cysondeb arddull, ac arian. Â’r arian tan fygythiad, mae’r awdur yn pledio achos y fethodoleg y tu cefn i ragor na phedwar degawd o ddata.

Dal dwylo er mwyn diogelu mawnogydd - partneriaethau’n adfer dwy gors ddirywiedig.

Mae dau brosiect partneriaeth ar wahân yn mynd rhagddynt yn Eryri a Môn er mwyn adfer darn eang o gynefin corstir dirywiedig. Ariennir y ddau gan Gronfa Ecosystemau Gwydn (CEG) Llywodraeth Cymru, a byddant yn parhau hyd Chwefror 2015. Mae GETHIN DAVIES a DAVE COWLEY yn disgrifio’r hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn, yr hyn sydd ar y gweill ar gyfer y cam olaf, a pha fudd y rhagwelir y bydd yn dod o ganlyniad i’r gwaith partneriaethol braenarol hwn

50 mlynedd yn ôl - aderyn o Ogledd America’n glanio yng Nghymru

Ymysg yr holl froc môr y mae drycinoedd y gaeaf yn eu cludo i’n glannau a’n hynysoedd, ysgubir amrywiaeth rhyfeddol o adar Americanaidd ar draws Iwerydd, er syndod a llawenydd gwylwyr yma, fel y dywed DAVID SAUNDERS.

Hinsawdd a newid y glannau

Gwnaed gallu grym y môr i ail-lunio ein glannau yn amlwg gan ddrycinoedd y gaeaf diwethaf: grym a fydd yn gynyddol amlwg wrth i lefelau’r môr godi. Bu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n gyfrifol am gymaint o arfordir Cymru, yn ymchwilio i amryw ddewisiadau, o amddiffynfeydd arfordirol cadarn i “dim ymyrryd gweithredol”, fel yr esbonia SARAH MELLOR a RICHARD NEALE.

Y Tywyddiadur - Yn cofnodi tywydd a ffenoleg yng Nghymru (rhan 2)

Amlinellwyd yn Rhan gyntaf y gyfres hon (Natur Cymru 50) fathau o ddata dyddiadur a ganfyddir yn y Tywyddiadur, sy’n rhan o wefan Llên Natur. Yma mae DUNCAN BROWN a TWM ELIAS yn cyflwyno rhai o’r pynciau penodol ac astudiaethau achos a gododd o ymchwilio agos i 90,000 o gofnodion yn Y Tywyddiadur, gan amlygu gwerth y dystiolaeth Gymraeg megis adnodd amgylcheddol mewn cyd-destun ehangach.

Ynni adnewyddadwy a’r amgylchedd naturiol - golwg o du’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Bu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn arloesi cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar ei hystâd, ond dim ond wedi tocio ar ei defnydd o ynni, ac nid ar draul bioamrywiaeth, fel yr esbonia KEITH JONES.

 

 

 

Gwastadhau Natur - trafferth traffyrdd ar Forfa Gwent

Mewn datganiad canol haf brawychus a dramatig, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei dewis ar gyfer ffordd liniarol yr M4 ar draws Morfa Gwent. Ymddengys mai’r llwybr a ddewiswyd yw’r un mwyaf difrodus, o safbwynt ecolegol, o’r holl ddewisiadau sydd ar gael, a’r un a fydd yn cymryd y mwyaf o amser i’w gwblhau. Mae SORREL JONES, Swyddog Cadwraeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, yn gwneud sylwadau yma ar y dadleuon, yr anawsterau a’r dirnadaethau ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru.

Cadwraeth a chlefydau’r wiwer goch - Adenofirws yng Nghymru

Mae rhan adenofirws ym marwolaeth gwiwerod cochion yn dod yn eglurach, diolch i ymchwil diweddar. Ond y mae’r darlun yn un cymhleth, nid yn lleiaf oherwydd y posibilrwydd y gall gwiwerod llwydion a llygod y coed drosglwyddo’r firws, a’r darganfyddiad y gall gwiwerod cochion gludo’r firws heb iddo eu lladd, fel yr esbonia CRAIG SHUTTLEWORTH.

Newyddion o’r ardd

Mae popeth yn digwydd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Arolwg ‘Bee Walk’ gyda’r Bumblebee Conservation Trust

Clare Flynn

 

Natur yn gyffredinol

Rheoli cynefinoedd – planhigion goresgynnol a Fferm Pen y Graig Goch

Ivy Denham

conservationandtrees.co.uk

Crynodeb o’r ynysoedd

Ein cipolwg arferol ar yr ynysoedd oddi arfordir Cymru. Y tro hwn:

Ynys Enlli ac Ynys Dewi

Geoff Gibbs

Darganfyddiadau mewn Gwyddoniaeth

Mewnwelediadau diddorol o Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Cysylltu casgliadau gwyddorau naturiol yng Nghymru: diweddariad haf 2014

Christian Baars

Coedwigoedd a fforestydd

Newyddion gan Coed Cadw, ymddiriedolaeth coetir Cymru

Seilwaith: yr hyn y byddai traffordd newydd arfaethedig yn ei olygu i Wastadeddau Gwent

Jerry Langford

Adolygiadau llyfrau

Deep Country: five Years in the Welsh Hills gan Neil Ansell
Atlas of Dragonflies in Britain and Ireland gan Michael Shrubb
Puffins gan Euan Dunn
Slugs of Britain and Ireland gan Ben Rowson, James Turner, Roy Anderson a Bill Symondson
Birdwatching Walks in Gwent gan Al Venables, Andrew Baker, Dave Brassey, John Coleman, Chris Field, Verity Picken a Steph Tyler