Rhif 50 – Gwanwyn 2014

Hanes Naturiol - Pontio’r bwlch rhwng yr amgylchedd hanesyddol a’r amgylchedd naturiol

Beth sy’n gyffredin rhwng y pathew a chaer hynafol? Yr ateb yw, mwy nag a feddyliech chi, fel yr eglura MARILYN LEWIS, Cyfarwyddwr CADW.

Cynlluniau trydan dŵr

Gallai casglu ynni dŵr yn llifo drwy rym disgyrchiant fod yn dechnoleg ddi garbon, ddi berygl, fel y mae cynllun ynni dŵr cynharach sydd wedi’i adfer ym Mhlas Tan y Bwlch yn dangos (gweler Natur Cymru 48). Ond gallai cynlluniau trydan dŵr ar yr ucheldir amharu ar yr amgylchedd a pheryglu ecosystemau i lawr yr afon. Yma, mae KYLE YOUNG yn ystyried y trefniadau sydd wedi’u sefydlu i gydbwyso’r buddion a’r costau a hefyd yr heriau y mae’n rhaid eu goresgyn i sicrhau fod y ffynhonell hon o ynni adnewyddadwy yn gynaliadwy mewn gwirionedd.

Tywydd eithafol yng Nghymru - cipolwg hanesyddol

Daeth y stormydd a fu’n chwalu arfordir Cymru ddechrau Ionawr â’r ddadl ynghylch newid hinsawdd a pha mor fregus yr ydyn ni mewn tywydd garw yn nes at yr asgwrn. Mae SARAH DAVIES a CERYS JONES o Brifysgol Aberystwyth yn egluro sut y gall dogfennau fod yn ffynonellau sy’n rhoi cipolwg hir dymor gwerthfawr ar natur tywydd eithafol a’i effaith ar gymunedau Cymru.

Y Fisglen yn y Fantol

Mae’r fisglen berlog dŵr croyw yn greadur rhyfeddol sy’n llenwi bwlch ecolegol pwysig ac yn gwella amodau i rywogaethau eraill drwy hidlo’r dŵr. Mae nhw hefyd mewn perygl dirfawr. Mae un prosiect, yn Afon Eden, yn ceisio gwyrdroi hynny. ELAIN GWILYM sy’n adrodd y stori.

Monitro unig Warchodfa Natur Forol Cymru

Daeth yn arferol monitro newidiadau amgylcheddol ar y tir, ond, o gofio cymaint yw’r angen i reoli adnoddau morol yn gynaliadwy, ychydig, yn rhyfedd iawn, o waith monitro biolegol sydd wedi’i gynnal ar iechyd ein moroedd. Mae enghraifft brin o hynny i’w gweld yng Ngwarchodfa Natur Forol Skomer. Mae’r gwaith monitro, gyda chymorth gwerthfawr plymwyr amatur brwdfrydig, wedi dangos darlun cymhleth o enillwyr a chollwyr yn ogystal â chadarnhau fod hen gyfaill yn dal ati, fel y disgrifia BLAISE BULLIMORE.

Y Tywyddiadur – yn cofnodi tywydd a ffenoleg yng Nghymru (rhan 1)

Cronfa gynhyrfus o ddata hanesyddol a chyfoes am dywydd a ffenoleg Cymru yw Y Tywyddiadur. Mae’n rhan o brosiect Llên Natur sy’n cofnodi ac yn dathlu perthynas pobl a’r amgylchedd naturiol. Yn yr erthygl hon, y gyntaf mewn cyfres o ddwy, mae DUNCAN BROWN a TWM ELIAS yn disgrifio’r gwahanol fathau o ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael ac yn sôn am y modd y mae gwaith ymchwil yn seiliedig ar y data sydd eisoes wedi ei gasglu yn dechrau dangos perthnasedd y wybodaeth i astudiaethau ehangach ym maes yr amgylchedd a newid hinsawdd.

“Y Proffesynolion” – yr ecolegydd modern yn blodeuo

O arbenigwr o naturiaethwr amatur, rhyfedd, brethyn cartref, genhedlaeth yn ôl, mae wedi bod yn daith hir i’r ecolegydd modern. Mae’r pwysau cynyddol ar ein cefn gwlad a’n trefi, sy’n cael ei liniaru gan ddeddfau a rheoliadau, wedi creu proffesiwn cymharol newydd o ecolegydd sy’n gwasanaethu’r byd cyfnewidiol hwn, fel yr eglura FRED SLATER.

Pobl a phele’r coed

Prin fod pele’r coed, sy’n fridiwr sâl ac â thiriogaeth helaeth, yn gallu dygymod ag erlid a phwysau newydd megis traffig cyflym. Eto, maen nhw’n rhan werthfawr o’r ecosystem, yn helpu gwiwerod coch drwy fwyta’r rhai llwyd ac maen nhw’n ennyn cryn ddiddordeb a chefnogaeth gan y cyhoedd. Mae’r boblgaeth ar y dibyn yma yng Nghymru ond mae prosiect newydd yn ymchwilio i sut y gellid eu hail sefydlu, fel yr adrodda DAVID BAVIN.

Yng nghysgod pele’r coed – casglu’r dystiolaeth

Mae’n amheus a oes yna boblogaeth hyfyw o bele’r coed yng Nghymru ond am bob un sy’n amau mae yna un arall sy’n benderfynol o gael at y gwir. Mae TOM FAIRFIELD yn adrodd hanes ei ymdrechion i gofnodi pelod yng nghoedwigoedd Cymru.

Coedwigoedd a fforestydd

Newyddion gan Coed Cadw, ymddiriedolaeth coetir Cymru

Natur yn gyffredinol
Darganfyddiadau mewn Gwyddoniaeth

Mewnwelediadau diddorol o Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Planhigion yn gyffredinol
Teyrnged i Morgan Parry

Duncan Brown a Jane Davison

Crynodeb o’r ynysoedd

Ein cipolwg arferol ar yr ynysoedd oddi arfordir Cymru. Y tro hwn:

Llinellau bywyd

Yn dilyn gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru